Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022

Ysgrifennaf atoch parthed adroddiad y Pwyllgor SL(6)299 ar Reoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”). Nododd Ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw y byddai O.S. diwygio yn cael ei wneud.

Pwynt Craffu Technegol 1:

Fel y’i nodir yn Ymateb y Llywodraeth, nid yw'r adran a enwir ym Mhwynt Craffu Technegol 1 yn effeithio ar vires y Rheoliadau. Er bod y pwerau o dan adran 16(1) ac 16(1A) yn ddigon eang i ddarparu ar gyfer estyn Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC dyddiedig 16 Rhagfyr 2002, nid yw'r cyfeiriad ehangach at is-adrannau (2) i (4) yn y pwerau galluogi yn effeithio ar vires y Rheoliadau. Deddfwriaeth ddiwygio yw'r Rheoliadau ac mae bwriad y Rheoliadau wedi cael ei weithredu. Mae'r diwygiadau gofynnol wedi eu gwneud ac felly mae'r darpariaethau wedi eu disbyddu. Nid oedd llawer o amser ar gael i lunio’r ymateb i'r Pwyllgor, ac yn sgil y parodrwydd i fod o gymorth, nododd yr ymateb y byddai O.S. diwygio yn cael ei wneud. Fodd bynnag, ar ôl myfyrio ar y mater o safbwynt cyfreithiol mwy ystyriol, mae Llywodraeth Cymru o’r farn na fyddai'n gywir gwneud O.S. diwygio o dan yr amgylchiadau hyn gan fod y pŵer cychwyn eisoes wedi ei arfer.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:

Mewn cysylltiad â Phwynt Craffu ar Rinweddau 2 mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi'n glir lle y gellir dod o hyd i Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ac nid yw'r Nodiadau Esboniadol eu hunain yn rhan o'r O.S.